2015 Rhif 1272 (Cy. 88) (C. 73)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 27 Ebrill 2015, Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adran 75(3) (aelwydydd sy’n ddigartref yn fwriadol ac sydd â phlant) ac, yn rhannol, adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb). Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed o ganlyniad i gychwyn Rhan 2.

Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 yn cychwyn, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn eisoes, Ran 2 (digartrefedd) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r eithriadau isod. Mae adran 100 o’r Ddeddf yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol ynglŷn â Rhan 2 o’r Ddeddf. Mae’r diwygiadau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael yr effaith o gyfyngu cymhwyso Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 at Loegr.

Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn adran 78 o’r Ddeddf, ond dim ond at ddibenion caniatáu i awdurdodau tai lleol benderfynu rhoi sylw i ddigartrefedd bwriadol mewn perthynas â chategorïau penodedig o geiswyr. Mae’n caniatáu hefyd i hysbysiadau penderfyniadau gael eu cyhoeddi.

Mae erthygl 3 yn dwyn adran 78 i rym at bob diben sy’n weddill ar 1 Gorffennaf 2015.

Mae erthygl 5 yn arbed Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Mae hefyd yn addasu’r Rheoliadau fel eu bod yn gweithredu fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 6 yn addasu adran 75(2)(d) o’r Ddeddf i hepgor y cyfeiriad at benderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb, nes i adran 78 ddod i rym yn llawn ar 1 Gorffennaf 2015.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â pherson sydd wedi gwneud cais cyn 27 Ebrill 2015 am gymorth o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996.

Mae erthygl 8 yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, er mwyn cyfeirio at swyddogaethau digartrefedd yr awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf.

 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau canlynol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 3

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 5

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 6

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 7

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 8

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 10

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 12 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 14

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 15

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 16

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 19

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 20

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 21

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 23

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 29

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 34

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 40

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 41

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 42

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 46

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 49

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 50

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 57

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 59

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 64

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 72

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 78

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 80

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 81

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 86

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 95

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 98

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 99

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 101

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 102

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 105

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 106

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill)

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 107

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 108

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 109

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adran 110

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Adrannau 111 i 128

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 131(4)(c)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 137

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 140

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Adran 144

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Paragraff 1 o Atodlen 2

(yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127

(Cy. 316)

Rhan 2 o Atodlen 3

25 Chwefror 2015

2015/380

(Cy. 39)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.


2015 Rhif 1272 (Cy. 88) (C. 73)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015

Gwnaed                                  21 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]).

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Ebrill 2015

2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2015

3. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.

Darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed

4. Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.

Darpariaeth arbed mewn perthynas â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

5.(1) Er gwaethaf cychwyn adran 61 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014([2]) yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad wedyn) fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.

(2) I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

(a)     yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a

(b)     yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.

Addasiad darfodol i’r Ddeddf

6.(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.

(2) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.

(3) Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â cheisiadau am lety neu gynhorthwy sydd yn yr arfaeth

7.(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.

(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996([3]).

(3) Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.

Addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970

8.(1) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970([4]) fel y mae’n gymwys i Gymru, gydag effaith o 27 Ebrill 2015.

(2) Hyd nes i Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([5]) ddod i rym, mae Atodlen 1 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 i’w darllen o ran ei chymhwyso at Gymru—

(a)     fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;

(b)     fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn lle’r eitem honno:

 

“Housing (Wales) Act 2014

Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section.

Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.”

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o

Weinidogion Cymru

 

 

21 Ebrill 2015

 

                   YR ATODLEN        Erthygl 2

Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym ar 27 Ebrill 2015

1. Adran 50 (dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd) at bob diben sy’n weddill;

2. Adran 51 (adolygiadau digartrefedd) at bob diben;

3. Adran 52 (strategaethau digartrefedd) at bob diben;

4. Adran 53 (trosolwg o’r bennod hon) at bob diben;

5. Adran 54 (cymhwyso termau allweddol) at bob diben;

6. Adran 55 (ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd) at bob diben;

7. Adran 56 (ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu) at bob diben;

8. Adran 57 (a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety) at bob diben sy’n weddill;

9. Adran 58 (ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig) at bob diben;

10. Adran 59 (addasrwydd llety) at bob diben sy’n weddill;

11. Adran 60 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth) at bob diben;

12. Adran 61 (cymhwystra am gymorth o dan y bennod hon) at bob diben;

13. Adran 62 (dyletswydd i asesu) at bob diben;

14. Adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) at bob diben;

15. Adran 64 (sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael) at bob diben sy’n weddill;

16. Adran 65 (ystyr cynorthwyo i sicrhau) at bob diben;

17. Adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) at bob diben;

18. Adran 67 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben) at bob diben;

19. Adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol) at bob diben;

20. Adran 69 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben) at bob diben;

21. Adran 70 (angen blaenoriaethol am lety) at bob diben;

22. Adran 71 (ystyr hyglwyf yn adran 70) at bob diben;

23. Adran 72 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety) at bob diben sy’n weddill;

24. Adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) at bob diben;

25. Adran 74 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben;

26. Adran 75(1), (2) a (4) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben([6]);

27. Adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) at bob diben;

28. Adran 77 (ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol) at bob diben;

29. Adran 78(2) (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) at ddibenion galluogi awdurdod tai lleol i wneud penderfyniad a chyhoeddi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw([7]);

30. Adran 79 (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben) at bob diben;

31. Adran 80 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) at bob diben sy’n weddill;

32. Adran 81 (cysylltiad lleol) at bob diben sy’n weddill;

33. Adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) at bob diben;

34. Adran 83 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr) at bob diben;

35. Adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben) at bob diben;

36. Adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) at bob diben;

37. Adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad) at bob diben sy’n weddill;

38. Adran 87 (effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd) at bob diben;

39. Adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol) at bob diben;

40. Adran 89 (apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl) at bob diben;

41. Adran 90 (ffioedd) at bob diben;

42. Adran 91 (lleoli y tu allan i’r ardal) at bob diben;

43. Adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat) at bob diben;

44. Adran 93 (gwarchod eiddo) at bob diben;

45. Adran 94 (gwarchod eiddo: darpariaethau atodol) at bob diben;

46. Adran 95 (cydweithredu) at bob diben sy’n weddill;

47. Adran 96 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant) at bob diben;

48. Adran 97 (datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadau) at bob diben;

49. Adran 98 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;

50. Adran 99 (dehongli’r bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) at bob diben sy’n weddill;

51. Adran 100 (diwygiadau canlyniadol) at bob diben;

52. Atodlen 2 at bob diben sy’n weddill; a

53. Rhan 1 o Atodlen 3 at bob diben.

 

 



([1])   2014 dccc 7.

 

([2])   O.S. 2014/2603 (Cy. 257).

([3])   1996 p. 52.

([4])   1970 p. 42.

([5])   2014 dccc 4.

([6])   Nid yw adran 75(3) yn cael ei chychwyn ar hyn o bryd ac mae adran 75(2)(d) yn cael ei haddasu dros dro gan erthygl 6 hyd nes y daw adran 78 i rym yn llawn ar 1 Gorffennaf 2015.

([7])   Mae erthygl 3 yn dwyn adran 78 i rym yn llawn at bob diben ar 1 Gorffennaf 2015.